Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Tachwedd 2020
Amser:
14.20 -
17.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6557
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS |
Tystion: |
Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Nicola Evans, Swyddfa Archwilio Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Nododd y Cadeirydd fod Mark Reckless AS bellach wedi gadael y Pwyllgor, a diolchodd iddo am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 21 Hydref 2020
2.2 PTN 2 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau at Archwilio Cymru: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) – adran 118 – 27 Hydref 2020
2.3 PTN 3 – Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd: Craffu ar reoliadau COVID-19 – 22 Hydref 2020
2.4 PTN 4 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Data Cwynion y GIG – 27 Hydref 2020
3 Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Wrth graffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro, cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn: Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Lindsay Foyster, Cadeirydd, Swyddfa Archwilio Cymru; a Nicola Evans, Pennaeth Cyllid, Archwilio Cymru.
4 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am yr eitemau a ganlyn:
· dadansoddiad mwy manwl o’r pecyn sefydlogi gwerth £800 miliwn i helpu GIG Cymru i ymateb i effeithiau parhaus pandemig COVID-19; a
· nodyn ar elfen 'Brofi' strategaeth 'Profi, Olrhain a Diogelu' Llywodraeth Cymru. Yn benodol, gofynnir am wybodaeth am unrhyw newidiadau tebygol yn y dyfodol agos i'r strategaeth 'Brofi' a'r dyraniad cyllid cysylltiedig.
5 Bil Marchnad Fewnol y DU: Sesiwn dystiolaeth
5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Marchnad Fewnol y DU gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; a Matthew Denham-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaethau Ariannol.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac ar gyfer eitemau 1 a 2 yn y cyfarfod ar 9 Tachwedd
6. Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 Bil Marchnad Fewnol y DU: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i adrodd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
8 Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2020-21: Trafod y dystiolaeth
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
9 Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru – Craffu ar Amcangyfrif 2021-22 a'r Adroddiad Dros Dro: Trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.